Sign in to confirm you’re not a bot
This helps protect our community. Learn more
Dolphin Football - dolphins toss jellyfish sky high!
367Likes
517,795Views
2009Oct 15
Cardigan Bay holds Britains largest coastal population of bottlenose dolphins. Every summer, between 150 and 250 dolphins inhabit these waters, forming very significant breeding and feeding grounds. Preliminary evidence is for a population that fluctuates from year to year, for reasons that are presently unclear. In some years, most of the population seems to inhabit the Bay; in others a portion disappear or are replaced by new animals of unknown origin. If sensible management of our bottlenose dolphin population is to be undertaken, we must better understand its dynamics and what makes some areas more important than others. A particular need is to convey the importance of conservation measures that will reduce disturbance, one of the main threats to these mammal populations. Photos are taken to identify individuals as well as video of interesting behaviour, as shown in this clip. To CCW's knowledge this behaviour has not been caught on film in Wales before, although dolphins are known to attack porpoises in this way. This video footage was captured during licensed Photo-ID operations following strict codes of conduct. Video captured by Mariko Mizuno, Marine Awareness North Wales Wildlife Trust (MANWWT). Video edited by Jonathan Easter, Marine Monitoring Biologist, CCW. Mae poblogaeth arfordirol fwyaf Prydain o ddolffiniaid trwyn potel i'w chael ym Mae Ceredigion. Yn wir, mae rhwng 150 a 250 o ddolffiniaid yn byw yn y dyfroedd yma, gan wneud defnydd o safleoedd bridio a bwydo helaeth iawn. Mae'r dystiolaeth ragarweiniol yn awgrymu bod y boblogaeth yn codi a gostwng o'r naill flwyddyn i'r llall, ac ar hyn o bryd nid yw'r rhesymau dros hyn yn glir. Ambell flwyddyn, mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y Bae; dro arall, mae cyfran o'r dolffiniaid yn diflannu, neu'n cael eu disodli gan greaduriaid newydd na wyddom o ble y dônt. Os ydym am reoli ein poblogaeth o ddolffiniaid trwyn potel yn synhwyrol, rhaid inni ddeall yn well beth yn union yw hanfod y boblogaeth honno a beth sy'n gwneud rhai ardaloedd yn bwysicach nag eraill. Un peth angenrheidiol yw cyfleu pa mor bwysig y gall camau cadwraethol fod -- camau a fydd yn arwain at darfu llai ar y creaduriaid, sef un o'r prif fygythion sy'n wynebu'r mamaliaid yma. Er mwyn adnabod dolffiniaid unigol caiff lluniau eu tynnu ohonynt, a hefyd caiff y creaduriaid eu ffilmio â chamera fideo er mwyn cofnodi unrhyw ymddygiad diddorol, fel y gwelir yn yr enghraifft yma. Cyn belled ag y gŵyr y Cyngor Cefn Gwlad, nid yw'r ymddygiad yma wedi cael ei ffilmio yng Nghymru o'r blaen, er ein bod yn gwybod bod dolffiniaid yn ymosod ar lamidyddion yn y ffordd yma. Cafodd y fideo yma ei ffilmio yn ystod gwaith ffoto-adnabod dan drwydded, a chafodd codau ymddygiad llym eu dilyn. Mariko Mizuno, Swyddog Ymwybyddiaeth Forol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a ffilmiodd hyn. Cafodd y fideo ei olygu gan Jonathan Easter, Biolegydd Monitro'r Môr gyda'r Cyngor Cefn Gwlad.

countrysidecouncil

123 subscribers